Cefndir a diben
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yw'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt allu talu eu treth gyngor.
Mae’r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel “Rheoliadau 2013”). Maent yn uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad, a lefel y gostyngiad, o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Yn ogystal ag uwchraddio’r ffigurau ariannol, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol a chanlyniadol i’r canlynol:
· Darparu, pan fo person yn cael Credyd Cynhwysol, a lle mae gwybodaeth berthnasol wedi’i rhannu ag awdurdod lleol, y caiff yr awdurdod hwnnw drin hynny fel bwriad i wneud cais am Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac i brosesu’r cais hwnnw yn unol â Rheoliadau 2013.
· Caniatáu i bobl sydd wedi'u dadleoli o Sudan, Israel, Palestina a Libanus gael mynediad i'r Cynllun Gostyngiadau’r Treth Gyngor yng Nghymru.
· Sicrhau “na fydd derbyn taliad a wneir o dan y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor yn effeithio’n negyddol ar unrhyw geisydd i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sy’n byw yng Nghymru”, fel yr eglurir yn y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn.
· Adlewyrchu newidiadau a wnaed yn Lloegr i hepgor cyfeiriadau at y “trothwy elw is” ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, i adlewyrchu’r ffaith, o 6 Ebrill 2024 ymlaen, nad yw pobl hunangyflogedig ag elw dros £12,570 (y trothwy elw is) bellach yn atebol i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ac yn hytrach, yn cael eu trin fel pe baent wedi talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
· Adlewyrchu teitl wedi'i ddiweddaru Consesiwn Dioddefwyr Mudol Cam-drin Domestig.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS, Ddatganiad Ysgrifenedigmewn perthynas â’r Rheoliadau hyn ar 10 Rhagfyr 2024.
Y weithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn rheoliadau 5(e)(ii), 8(e)(ii) a 17(b) o'r Rheoliadau hyn, gwneir diwygiadau testunol i hepgor yr ymadrodd “neu’r swm a bennir yn adran 11(4)(a) o’r Ddeddf honno (trothwy elw is mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2)” o ddarpariaethau amrywiol yn Rheoliadau 2013. Fodd bynnag, cafodd y cyfeiriad at “adran 11(4)(a)” a'r geiriau “trothwy elw is” yn yr ymadrodd hwnnw ddim ond eu cyflwyno i’r testun Saesneg gan ddiwygiadau blaenorol a wnaed gan reoliad 5 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cynyddu Trothwy Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2) 2022, sy’n un o offerynnau statudol y DU.
O ganlyniad, nid yw’n ymddangos bod testun Cymraeg presennol y darpariaethau amrywiol hynny wedi’i ddiwygio i gynnwys y cyfeiriad hwnnw a’r geiriau hynny ar unrhyw adeg. Yn y testun Cymraeg, felly, mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5(e)(ii), 8(e)(ii) ac 17(b) o’r Rheoliadau hyn yn anghywir wrth nodi bod y testun presennol i’w hepgor fel pe bai’n cynnwys y cyfeiriad “adran 11(4)(a)” a'r geiriau “trothwy elw is” gan nad yw’n ymddangos eu bod wedi’u mewnosod yn nhestun Cymraeg presennol Rheoliadau 2013.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
23 Rhagfyr 2024